Erbyn hyn, bydd eich cyngor lleol yn gallu codi dirwy arnoch os na fyddwch wedi sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei drosglwyddo i rywun awdurdodedig. Gallai hyn effeithio arnoch chi os ydych, er enghraifft, wedi cyflogi adeiladwyr, garddwyr neu fasnachwyr sborion metel sy’n mynd â deunyddiau i ffwrdd o’ch cartref. Os caiff y deunyddiau hyn eu tipio’n anghyfreithlon, gallech chi fod yn atebol a hyd yn oed cael dirwy.
Beth ddylech ei wneud i sicrhau bod eich gwastraff yn cael ei waredu’n gywir?
Os byddwch yn cyflogi contractwyr fel adeiladwyr a masnachau perthynol, garddwyr tirlunio, cymynwyr a meddygon coed, clirwyr tai, sefydliadau adwerthu neu fasnachwyr sborion metel sy’n mynd â gwastraff i ffwrdd o’ch eiddo, bydd angen cofrestriad cludwr gwastraff fel arfer ar y bobl hyn.
Holwch eich contractwr a yw’n gludwr gwastraff cofrestredig a gofynnwch am ei rif cludwr gwastraff.
Cysylltwch â ni ar 0370 8506506 a gofyn am Archwiliad Dilysu Cludwr Gwastraff. Gallwch wneud hyn ar-lein hefyd drwy archwilio’r cyswllt Cludwyr Gwastraff Awdurdodedig. Os nad yw eich contractwr wedi cofrestru, dylech wrthod ei wasanaethau a gofyn iddo gael cyngor gan Asiantaeth yr Amgylchedd.
Mynd i’r afael â thipio anghyfreithlon
Mae tipio anghyfreithlon yn broblem ddifrifol yng Nghymru a Lloegr. Gall gostio £100-£150 miliwn bob blwyddyn i ddelio â’r broblem. Trethdalwyr a thirfeddianwyr preifat sy’n talu’r gost hon. Caiff tipio anghyfreithlon effaith andwyol ar amgylcheddau lleol, gan fygwth iechyd afonydd a mannau hamdden a hyd yn oed gostwng prisiau eiddo yn yr ardal.
Os byddwch yn gweld sbwriel wedi’i dipio’n anghyfreithlon, cysylltwch â’ch cyngor lleol.