Beth fedrwch chi ei wneud

Gall pob un ohonom helpu i fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd a pharatoi am yr effeithiau.

Gallwn ni i gyd gael effaith ar yr amgylchedd trwy sut byddwn yn defnyddio adnoddau a llosgi tanwydd ffosil ar gyfer gweithgareddau bob dydd fel gyrru ceir a gwresogi ein cartrefi. Os bydd pawb ohonom yn ymdrechu i wneud y dewisiadau amgylcheddol mwyaf cynaliadwy yn ein bywydau, yna gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol.

Lleihewch eich ôl troed carbon

Ystyriwch effeithiau amgylcheddol:

  • Yr ynni a ddefnyddir yn eich cartref
  • Eich dull o deithio
  • Y bwyd byddwch yn ei fwyta

Gwnewch bopeth y gallwch i leihau eich ôl troed amgylcheddol a byddwch nid yn unig yn cael llai o effaith ar yr amgylchedd ond, yn ôl pob tebygrwydd, byddwch yn canfod eich bod yn arbed arian, yn ogystal, ac yn byw bywyd iachach.

Arbedwch ddŵr yn eich cartref

Mae cynyddu’r effeithlonrwydd dŵr yn eich cartref yn lleihau faint o ynni a ddefnyddir er mwyn trin dŵr a gall arbed arian i chi a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd.

Pethau eraill gallwch chi eu gwneud

Dyma restr o bethau eraill syml gallwch chi eu gwneud a fyddant yn helpu i leihau eich ôl troed carbon gan 10 y cant:

  • inswleiddio eich cartref
  • troi eich gwres canolog i lawr gan un radd
  • defnyddio goleuadau a chyfarpar sy’n ynni-effeithlon
  • ymdrechu i beidio ag hedfan. Gall dewis peidio ag hedfan ar un achlysur yn unig mewn blwyddyn leihau cryn dipyn ar eich ôl troed carbon cyffredinol.
  • rhannu car
  • mynd ar gefn eich beic am deithiau byr
  • bwyta bwyd lleol, tymhoraidd, ffres, na phroseswyd mohono
  • lleihau faint o wastraff rydych yn ei gynhyrchu ac ailddefnyddio neu ailgylchu cymaint ag y medrwch
  • pryd bynnag byddwch yn prynu rhywbeth, dewiswch yr opsiwn mwyaf eco-ystyriol

Paratoi am effeithiau newid yn yr hinsawdd

Hyd yn oed os byddwn yn atal pobl allyriad nwy tŷ gwydr yfory byddwn yn profi newid yn yr hinsawdd am 30-40 mlynedd bellach. Yn y DU mae angen i ni fod yn barod am lifogydd, sychderau a phoethdonnau mwy mynych.

Gwarchodwch eich cartref rhag llifogydd

Asiantaeth yr Amgylchedd yw’r sefydliad arweiniol ar gyfer llifogydd yn y DU. Gallwn eich helpu i baratoi am lifogydd ac os byddwch yn cofrestru i dderbyn ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim, pan fod llifogydd yn debygol o ddigwydd, byddwn yn rhoi gwybod i chi amdanynt.

  • Sut bydd newid yn yr hinsawdd yn effeithio ar berygl llifogydd?
  • Ydw i mewn perygl o lifogydd?
  • Sut fedraf i fod yn barod?
  • Ein gwasanaeth rhybuddion llifogydd am ddim
  • Insiwleiddiwch eich cartref

Bydd inswleiddiad cartref yn eich muriau a’ch croglofft nid yn unig yn lleihau faint o ynni rydych ei angen er mwyn gwresogi eich tŷ, bydd yn helpu i gadw eich cartref yn oer os ceir poethdon.

Gwellwch eich effeithlonrwydd dŵr

Mae defnyddio dŵr yn effeithlon yn eich cartref yn arbed dŵr rhag cael ei gymryd o’r amgylchedd ac felly mae’n lleihau’r perygl o sychder. Os gallwch chi gynaeafu dŵr glaw ac ailgylchu dŵr llwyd bydd yn gwneud eich cartref a’ch gardd yn fwy gwydn yn ystod prinderau dŵr.

Mwy o syniadau

Trwy ddolen gyswllt isod ceir stori gan G.R. Mantard ynghylch sut y gwelodd y ffilm newid yn yr hinsawdd ‘The Age of Stupid’, a chael ei ysbrydoli i gyfrifo ei ôl troed carbon a dysgu sut i’w leihau.

Mae llawer o wefannau sy’n dal cyfoeth o wybodaeth i’ch helpu i leihau eich effaith bersonol ar newid yn yr hinsawdd. Hwyrach bydd y gwefannau isod yn ddefnyddiol i chi:

Mae gwefan English Heritage, Climate Change and Your Home, yn helpu pobl sy’n berchen ar neu yn rheoli tai i ddeall mwy am effeithiau posibl newid yn yr hinsawdd a ffyrdd i arbed ynni.