Beth fyddwn ni’n ei wneud er mwyn mynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn chwarae rôl ganolog wrth fynd i’r afael â newid yn yr hinsawdd. Mae ein gwaith yn cwmpasu lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a elwir yn lliniaru, a hefyd rheoli effeithiau newid yn yr hinsawdd, neu ymaddasu.

Cyfyngu ar newid yn yr hinsawdd

Byddwn ni’n helpu i redeg rhai o’r prif gynlluniau masnachu er mwyn lleihau allyriadau nwyon tŷ gwydr, a byddwn ni’n rheoleiddio technolegau carbon-isel pwysig fel ynni dŵr, pŵer niwclear a dal a storio carbon.

Ymaddasu i newid yn yr hinsawdd

Mae gennym, yn ogystal, rolau pwysig i’w chwarae wrth reoli effeithiau newid yn yr hinsawdd trwy ein cyfrifoldebau dros reoli peryglon llifogydd ac arfordirol, dros yr amgylchedd dŵr a gwlypdir, ac fel ymgynghorydd yn y system cynllunio sut defnyddir tir.

Arwain trwy esiampl

Byddwn yn defnyddio ein gwybodaeth arbenigol a’n profiad er mwyn bod yn gyfrannog mewn mentrau cenedlaethol a lleol er mwyn ymaddasu i newid yn yr hinsawdd, ac er mwyn rhoi cyngor i eraill.

Canfyddwch fwy trwy ddilyn y cysylltau isod: