Gwybodaeth am sut mae’r Rheoliadau Perygl Llifogydd yn cael eu gweithredu, rolau a chyfrifoldebau prif awdurdodau llifogydd lleol a ninnau, a’r asesiadau, mapiau a chynlluniau sy’n cael eu llunio.
Mae'r Rheoliadau Perygl Llifogydd (y Rheoliadau) yn gweithredu gofynion Cyfarwyddeb Llifogydd yr Undeb Ewropeaidd (PDF, 73KB) sy'n ceisio sicrhau dull cyson o reoli perygl llifogydd ledled Ewrop. Mae'r dull yn seiliedig ar gylch cynllunio 6 blynedd, sy'n cynnwys cyhoeddi:
- Asesiadau Cychwynnol o'r Bygythiad Llifogydd (PFRA) erbyn 22 Rhagfyr 2011.
- Mapiau perygl a risg erbyn 22 Rhagfyr 2013.
- Cynlluniau rheoli perygl llifogydd erbyn 22 Rhagfyr 2015.
Rolau a chyfrifoldebau
Mae cyfrifoldebau o dan y Rheoliadau Perygl Llifogydd yn gyson â Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010. Rydym yn gyfrifol am reoli perygl llifogydd o brif afonydd, y môr a chronfeydd dŵr. Mae'’r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol yn gyfrifol am ffynonellau perygl llifogydd lleol, yn enwedig dŵr ffo, dŵr daear a chwrs cyffredin y dŵr. Mae gennym hefyd ddyletswydd o dan y Rheoliadau Perygl Llifogydd i adolygu, coladu a chyhoeddi’r adroddiadau, mapiau a chynlluniau sy'n cael eu paratoi (gennym ni a'r Awdurdodau Llifogydd Lleol Arweiniol).
Ardaloedd Basn Afon
O dan ofynion y Gyfarwyddeb Llifogydd, mae'r gwaith o adrodd yn cael ei wneud ar lefel Ardaloedd Basn Afon. Mae 11 ardal basn afon sy'n rhannol neu'n gyfan gwbl yn perthyn i Gymru a Lloegr. Mae'r Ardaloedd Basn Afon hyn yr un fath â'r rhai a ddefnyddir gan y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr wrth gynllunio basnau afon.
Cydgysylltu darpariaeth y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr a'r Gyfarwyddeb Llifogydd
Mae'r Gyfarwyddeb Llifogydd yn chwaer gyfarwyddeb i'r Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr (WFD). Mae'r ddwy gyfarwyddeb yn defnyddio'r un uned reoli (ardaloedd basn afon) ac yn seiliedig ar yr un cylch cynllunio 6 blynedd. Mae'n rhaid cydgysylltu darpariaeth y ddwy gyfarwyddeb.
Ni yw'r awdurdod cymwys ar gyfer y Gyfarwyddeb Fframwaith Dŵr ac rydym yn gyfrifol am ei gweithredu yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn nodi sut rydym yn bwriadu cydgysylltu'r ddarpariaeth yn nogfen ymgynghori 'Gweithio gyda’n Gilydd' y Gyfarwyddeb a fydd yn cael ei chyhoeddi ym mis Mehefin 2012. Mae'r ddogfen hon yn un o ofynion y Gyfarwyddeb a'r cyntaf o dri ymgynghoriad statudol a gynhelir rhwng 2012 a 2015 i'n helpu i baratoi y Cynlluniau Rheoli Basn Afon ar gyfer 2015.
Amserlen ar gyfer cyhoeddi'r prif gynhyrchion statudol ar gyfer cylch 2 gwaith cynllunio rheoli basn afon
- Mehefin 2012 - Ymgynghoriad Gweithio gyda’n Gilydd.
- Mehefin 2013 - Ymgynghori ar faterion rheoli dŵr pwysig a nodweddion basn afon, gan gynnwys asesiadau risg.
- Mehefin 2014 - Cynlluniau Rheoli Basn Afon Drafft.
- Mehefin 2015 - 2il Gynlluniau Rheoli Basn Afon.