Cofrestrau cyhoeddus

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd yn trwyddedu diwydiant, busnes ac unigolion i wneud gweithgareddau penodola ddichon lygru'r amgylchedd.

Pan dderbyniwn gais am drwydded o'r fath, byddwn yn trefnu fod y cais hwnnw a gwybodaeth berthnasol arall ar gael i'r cyhoedd. Gwnawn hyn cyn inni benderfynu a ddylid rhoi'r drwydded ai peidio, neu ba amodau a atodwn ato.

Wedi rhoi unrhyw drwydded, trefnir bod gwybodaeth bellach ar gael ar y cofrestrau yn ogystal. Gall hyn, yn nodweddiadol, gynnwys gwybodaeth arolygu, manylion unrhyw dor-amodau'r drwydded, unrhyw orfodi ar ein rhan ni, ac unrhyw geisiadau am newid telerau'r drwydded.

Gweler y Telerau ac Amodau.

Rheoliadau Caniatáu Amgylcheddol

Mae'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol, a ddaethant i rym yn Ebrill 2010, bellach yn cyfuno'r Rheoliadau Atal a Rheoli Llygredd (ARhLl) blaenorol, Trwyddedu Rheoli Gwastraff, caniatáu Gollwng Dŵr, caniatadau Dŵr Daear a Rheoliad Sylweddau Ymbelydrol. Bydd y newidiadau hyn yn gwneud y rheoliadau’n fwy effeithiol, ac yn llai o faich ar fusnes.

Defnydd Masnachol

Yn ogystal â'r hawliau defnyddio a roddir yn yr hysbysiad hwnnw, gallwch gymryd un copi o unrhyw  ran o gynnwys ein Hadran Cofrestr Gyhoeddus, ar yr amod y deallwch nad ydym yn rhoi unrhyw ganiatâd hawlfraint yng nghyswllt detholiadau o'r fath sydd wedi'u copïo.

Os ydych angen unrhyw wybodaeth bellach ynghylch y gwasanaeth hwn, cysylltwch â: