A wyf yn wynebu perygl o lifogydd?

Pa mor debygol ydyw y bydd llifogydd o afonydd a'r môr yn eich ardal chi? Defnyddiwch ein Map Llifogydd i gael yr ateb.

Map Llifogydd a sut i'w ddefnyddio

Defnyddiwch y map hwn i ddod o hyd yn gyflym i’r risg o lifogydd a ragfynegir yn eich ardal gan afonydd a’r môr. Gallech fod mewn perygl o ffynonellau eraill o lifogydd

Nodwch mai canllaw yn unig yw ein Map Llifogydd.  Nid yw wedi ei gynllunio i fod yn gywir ar lefel eiddo unigol.

Sut i gyrchu a defnyddio’r Map Llifogydd

  1. Dewch o hyd i'ch lleoliad ar y map.  Gallwch fynd yn syth at eich ardal drwy chwilio am eich cod post, gan ddefnyddio'r blwch chwilio ar ochr dde'r dudalen hon.
  2. Unwaith y gallwch weld eich lleoliad ar y map, cliciwch ar y pwynt y mae gennych ddiddordeb ynddo.  Yna fe welwch ganllaw i'r posibilrwydd o lifogydd yn eich ardal - isel, cymedrol neu sylweddol. Ceir dolenni hefyd i ragor o wybodaeth a chyngor defnyddiol.

Mwy o wybodaeth am y Map Llifogydd

  • Beth a olygir wrth 'perygl llifogydd'

    Nid yw perygl llifogydd yn golygu tebygolrwydd o lifogydd yn unig, ond hefyd y difrod posibl y gallai llifogydd ei achosi. Mynnwch wybod rhagor am y modd yr ydym yn ei fesur yma.

  • A yw hyn yn effeithio ar fy yswiriant?

    Canfod sut mae’r tebygolrwydd o lifogydd yn eich ardal yn effeithio ar yswiriant eich cartref a beth i’w wneud os oes angen rhoi mwy o wybodaeth i gwmni yswiriant (cais sy’n ymwneud ag yswiriant)

  • Rhagor o wybodaeth am lifogydd cronfa ddŵr?

    Gallwch ddefnyddio ein Mapiau Llifogydd Cronfeydd Dŵr i weld a allai llifogydd cronfa ddŵr effeithio ar eich ardal. Mae rhagor o wybodaeth am lifogydd cronfa ddŵr yma.

Map llifogydd

Ydych chi mewn perygl o ddioddef llifogydd? Nodwch eich cod post neu enw lle i gael gwybod nawr...

Gweithredwch yn awr

Ymgofrestrwch ar gyfer derbyn rhybuddion llifogydd gyda’n gwasanaeth Rhybuddion Llifogydd Uniongyrchol

rhad ac am ddim ni, neu galwch Floodline ar 0845 988 1188 er mwyn siarad â rhywun ynglŷn â llifogydd.